Bydd Her Syrffio Broffesiynol Surf Snowdonia yn cael ei chynnal yn Dolgarrog, Dyffryn Conwy ddydd Sul (Medi 16), ac mae disgwyl i 34 o athletwyr gystadlu ynddi.

Yn ôl Cymdeithas Syrffio Broffesiynol y Deyrnas Unedig (UKSPA), maen nhw’n bwriadu cynnig gwobrau ariannol cyfartal i ferched a bechgyn o’r flwyddyn nesa’ ymlaen er mwyn sicrhau “cydraddoldeb” o fewn y gamp.

“Mae syrffio yn amlwg wedi cyrraedd pwynt ble mae angen cydraddoldeb ynglŷn â sut rydym yn gwobrwyo ein hathletwyr,” meddai David Rees, cyfarwyddwr UKSPA.

“Mae ein penderfyniad i gynnig gwobr ariannol gyfartal ar draws elfennau dynion a merched yn cynrychioli ein hymrwymiad i bob syrffiwr, waeth beth yw eu rhywedd.”

Surf Snowdonia

Surf Snowdonia yw lagŵn syrffio mewndirol cynta’r byd, ac fe gafodd ei agor ym mis Awst 2015.

Byd Her Syrffio Broffesiynol Surf Snowdonia yn cychwyn am wyth fore dydd Sul, ac mae parcio a mynediad i’r digwyddiad am ddim.

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o Daith Syrffio Broffesiynol y Deyrnas Unedig, ac fe gafodd Surf Snowdonia ei gynnwys yn rhan o’r daith am y tro cynta’ yn 2016.