Mae’r Cymro ac enillydd Tour de France, Geraint Thomas wedi llofnodi cytundeb newydd gyda thîm seiclo Sky.

Bydd y cytundeb yn ei gadw gyda’r tîm tan 2021.

Diolchiadau

Wrth siarad â gwefan y tîm dywedodd, “Dw i’n falch ei fod wedi’i sortio – ac wrth fy modd o gael aros gyda’r tîm.

“Bu’n daith wych i fi gyda thîm Sky ac yn amlwg, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn wallgo’.

“Mae’n gweithio’n dda iawn i fi yma a dw i wedi fy nghyffroi ynghylch yr hyn sydd eto i ddod.”

Dywedodd ei fod yn teimlo’n “gartrefol” gyda’r tîm, ar ôl ymuno â nhw yn 2010, a bod y tîm yn “un teulu hapus”.
Fe dalodd e deyrnged i’w hyfforddwyr ac i gefnogwyr y tîm sydd, meddai, wedi bod yn “anhygoel” cyn ychwanegu mai nhw yw’r “cefnogwyr gorau”.