Y paffiwr o Gymru, Joe Cordina yw pencampwr pwysau ysgafn newydd y Gymanwlad, yn dilyn ei fuddugoliaeth dros Sean Dodd yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Enillodd e’r ornest yng Nghanolfan Iâ Cymru yn dilyn penderfyniad pwyntiau unfrydol o 119-109, 117-112, 120-109. Dyma’i wythfed buddugoliaeth o’r bron ar ôl troi’n broffesiynol 16 mis yn ôl.
Roedd ei wrthwynebydd 34 oed o Benbedw ar y noson yn gyn-bencampwr y Gymanwlad sydd wedi mynd am deitl Prydain ddwywaith.
Daeth cyfle i’r Cymro roi terfyn ar yr ornest yn y degfed rownd, ond parhau i frwydro wnaeth ei wrthwynebydd.
Buddugoliaethau eraill i Gymry
Ar yr is-gerdyn, roedd buddugoliaethau i nifer o Gymry eraill ar yr un noson.
Enillodd Sean McGoldrick, Kody Davies, Daniel Barton a Nathan Thorley eu gornestau nhw.