Mae’r ymladdwr crefftau ymladd cymysg o Bontarddulais, Brett Johns wedi cael ei ganmol yn dilyn ei ornest UFC yn erbyn Pedro Munhoz yn Los Angeles neithiwr.

Collodd y Cymro ac fe gafodd e grasfa yn yr octagon dan law’r ymladdwr o Frasil, sydd bum safle uwch ei ben yn y rhestr detholion.

Roedd y dorf y tu ôl i’r Cymro Cymraeg wrth i’r ail rownd ddirwyn i ben, ac yntau wedi cael ei fwrw a’i gicio am ran fwya’r rownd honno cyn cael ei lorio. Ond fe gododd unwaith eto nes iddo gael ei lorio unwaith eto a’i goesau’n gwanhau.

Wrth i’r Cymro fynd i’r llawr, fe gafodd ei guro ar lawr cyn codi unwaith eto am 45 eiliad ola’r rownd.

Fe gafodd ei gicio’n galed unwaith eto yn y drydedd rownd, ond fe lwyddodd i ymgiprys am nifer o funudau tan ddiwedd y rownd.

Ond roedd y canlyniad yn unfrydol yn y pen draw, wrth i’r ymladdwr o Frasil ennill o 30-26, 29-28 a 29-27.

Prin fod y Cymro’n gallu cerdded allan o’r octagon ac i lawr y grisiau ar ddiwedd yr ornest, a’r dagrau’n cronni yn ei lygaid.

Ymateb i’w berfformiad

Wrth i’r ail rownd ddirwyn i ben, roedd perchennog yr UFC, Ari Emanuel ar ei draed i longyfarch Brett Johns.

Ac roedd y dorf hefyd yn groch drwy gydol yr ornest wrth geisio annog y Cymro i aros ar ei draed.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Pedro Munhoz, “Ces i fy synnu’n fawr na ches i’r diweddglo ar ôl i fi ei anafu fe’n ddrwg nifer o weithiau ond, diawch, mae Brett Johns yn foi cryf iawn.”