Fe fydd y Cymro Cymraeg 26 oed o Bontarddulais, Brett Johns yn camu i mewn i octagon yr UFC heno (nos Sadwrn) am y tro cyntaf ers iddo golli ffeit am y tro cyntaf bedwar mis yn ôl.

Daeth colled gyntaf ei yrfa yn erbyn Aljamain Sterling yn Atlantic City ym mis Ebrill, ac fe gyfaddefodd mai cael ei daro yn ei wyneb oedd ei wendid bryd hynny.

Mae’n dychwelyd y tro hwn ar gyfer gornest UFC 227 yn Los Angeles i herio Pedro Munhoz o Frasil, gan ddweud ei fod yn “hapusach” ac yn meddu ar yr “ysbryd i ennill yr ornest”.

Ond ei wrthwynebydd yw’r ffefryn, ac yntau’n 31 oed ac wedi ennill 15 gornest a cholli tair. Daeth naw o’i fuddugoliaethau ar ôl i’w wrthwynebydd ildio.

Serch hynny, collodd Pedro Munhoz ei ornest ddiwethaf yntau hefyd, a hynny yn erbyn John Dodson.

Ac os yw’r Cymro am sicrhau’r fuddugoliaeth, mae’r arbenigwyr yn rhagdybio y bydd rhaid i Brett Johns osgoi cael ei lorio o amgylch ei wddf – un o gryfderau ei wrthwynebydd.

‘Ffeit galetaf fy mywyd’

Ar ei dudalen Facebook, dywedodd Brett Johns: “Mae yma o’r diwedd. Ffeit galetaf fy mywyd.

“Alla i ddim aros i fod i mewn yno, yn gwneud beth rwy’ wedi bod yn ei wneud dros y 10 mlynedd diwethaf!

“Dw i’n ddigon da i fod ar y lefel yma a heno, fe ddangosa i’r byd.

“Diolch i BAWB am y gefnogaeth dros y blynyddoedd. Diolch yn fawr i fy hyfforddwyr a’r teulu sydd yma gyda fi ac sydd wedi gwneud hon yn un o’r teithiau gorau gyda’r tîm.

“Bendith Duw arnoch chi i gyd. Cymru am Byth!”