Mae Elinor Barker o Gaerdydd a thîm Prydain wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Seiclo Ewrop yn Glasgow, yn dilyn eu buddugoliaeth yn y ras gwrso.

Hon yw medal gynta’r Bencampwriaeth i dîm Prydain, sydd hefyd yn cynnwys Laura Kenny, Katie Archibald a Neah Evans.

Daethon nhw i’r brig gyda mantais o wyth eiliad dros yr Eidal yn y rownd derfynol, gan orffen mewn pedair munud, 16.896 eiliad.