Geraint Thomas yw enillydd swyddogol ras feics Tour de France.

Fe sicrhaodd e’r fuddugoliaeth ar ôl cwblhau’r cymal olaf ym Mharis yn llwyddiannus.

Y Cymro o Gaerdydd yw’r dyn cyntaf o Gymru i ennill y ras – ac mae’n ymuno â Nicole Cooke o Fro Morgannwg fel yr unig Gymry i ennill y ras – a hithau’n bencampwraig yn 2006 a 2007.

Y cymal olaf

Alexander Kristoff o Norwy enillodd y ras wib yn y cymal olaf.

Roedd croesi’r llinell derfyn yn ddigon i Geraint Thomas gadw ei afael ar y crys melyn a chael ei goroni’n bencampwr, wrth i Tom Dumoulin o’r Iseldiroedd orffen yn ail, funud a 51 eiliad y tu ôl i’r Cymro.

Chris Froome, cyd-aelod Geraint Thomas yn nhîm Sky, orffennodd yn drydydd, 33 eiliad i ffwrdd o’r ail safle.

Geraint Thomas yw’r trydydd enillydd erioed o wledydd Prydain, ar ôl Syr Bradley Wiggins a Chris Froome. Dyma chweched buddugoliaeth tîm Sky mewn saith mlynedd.