Mae aelod o dîm seiclo Geraint Thomas wedi ail-ddatgan ei gefnogaeth i’r Cymro, wrth i ddiwedd Tour de France nesáu.

“Mae Geraint wedi seiclo yn wych, ac yn haeddu gwisgo’r crys melyn,” meddai Chris Froome, o dîm Sky. “A gobeithio y bydd yn ei wisgo tan i ni gyrraedd Paris.”

Roedd Chris Froome yn cael ei ystyried yn arweinydd tîm Sky, ond bellach mae Geraint Thomas ar frig y gystadleuaeth – a’i gyd-aelod yn drydydd.

“Dw i’n hapus â fy safle,” meddai Chris Froome wedyn, “ond dw i’n dal i frwydro am le ar y podiwm, ac yn amlwg hoffwn weld Geraint lan yno yn y melyn.”

Ffraeo?

Yn ystod Tour de France 2012, roedd yna dipyn o densiwn rhwng Chris Froome ac aelod arall o’i dîm, Bradley Wiggins – ef enillodd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.

Ond, mae Geraint Thomas yn mynnu nad oes rhwyg yn y berthynas rhyngddo ef a’i gyd-seiclwr.

“Rydym wedi bod yn agored a gonest â’n gilydd ers y dechrau,” meddai Geraint Thomas, “Rydyn ni’n ffrindiau da, ac yn agored gyda’n gilydd. Dyna pam rydyn ni wedi llwyddo hyd yma, dw i’n meddwl.”