Fydd Geraint Thomas ddim yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Seiclo Ewrop yn Glasgow fis nesaf.

Mae lle i gredu bod y Cymro wedi gofyn am beidio â chael ei ystyried ar gyfer tîm Prydain, er bod ei enw wedi ymddangos ar y rhestr hir wreiddiol.

Ymhlith y cystadlaethau fydd rasys ffordd a rasys yn erbyn y cloc ar Awst 12.

Ond mae’r Gymraes Dani Rowe wedi’i dewis ar gyfer y rasys ffordd ar Awst 5 ar ôl ennill medal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.