Mae’r bencampwraig Olympaidd, Dani Rowe, wedi’i dewis yn rhan o dîm Waowdeals Pro Cycling ar gyfer y ras sy’n dechrau fory (dydd Mercher, Mehefin 13) ac yn gorffen ym Mae Colwyn ddydd Sul (Mehefin 17).

Mae 107 o feicwyr o 17 o dimau o 23 o wahanol wledydd yn rhan o’r ras sy’n ymweld â Chymru am y tro cyntaf – mae’r cymal olaf yn dechrau yn Nolgellau ac yn mynd drwy’r Bermo, Harlech a Betws-y-coed cyn cyrraedd Bae Colwyn.

Mae’r ras yn cynnwys Marianne Vos, enillydd 2014 sy’n aelod o’r un tîm â Dani Rowe. Enillodd Rowe fedal efydd yng ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur yn mis Ebrill.

“Bydd y ras hon yn drydydd gol i fi y tymor hwn,” meddai Dani Rowe wrth golwg360. “Roedd Gemau’r Gymanwlad gyntaf, yr ail oedd y Tour de Yorkshire fis diwethaf… a rŵan hon.

“Rydan ni newydd fod dramor yn Majorca yn cael bloc mawr o ymarfer. Mae’n dda mynd dramor, mae’r ffyrdd yn dda gyda digon o ddringfeydd, a does dim byd arall i fynd â’n sylw ni, felly rydan ni’n gallu canolbwyntio ar ein rasio.”

Un tîm

Mae nod tim merched y Waowdeals Pro Cycling yn glir – ennill pob ras – ac mi fyddan nhw’n cadw eu hopsiynau’n agored cyn pob un.

Gyda Marianne Vos yn y tîm, yn amlwg, fe fydd pwysau ar bob aelod i ennill ei lle yn y lein-yp. Mae’n golygu hefyd y byddan nhw’n darged gan dimau eraill.

“Mae’n wych i gael Marianne yn y tîm, dw i’n dysgu ganddi ac mae’i thraed hi ar y ddaear,” meddai Dani Rowe.

“Dw i wedi gweld y cwrs y byddwn ni’n ei rasio yng Nghymru dros y dyddiau nesa’… mae’n gwrs caled gyda dringfeydd anodd, ond rwy’n edrych blaen i rasio yn y gogledd.”

Damwain… bron â marw

Mae’n syndod bod Dani Rowe yn seiclo o gwbwl, wedi iddi gael damwain ddifrifol yn 2014, pan ddisgynnodd cyd-feicwraig i mewn i dwll yn y ffordd a bwrw i mewn iddi hithau.

Bryd hynny, mi dorrodd nifer o asennau, ac ar un adeg, roedd Dani Rowe yn meddwl ei bod am farw.

“Fydda’ i byth yn gant y cant ar ol y ddamwain yna,” meddai. “Dw i ddim yn siŵr eto os fydd fy ysgyfaint i byth yn gallu cymryd yr un faint o anadl i mewn…

“Mi fues i oddi ar fy maic am wyth wythnos, ac mi gymrodd hi dipyn i gael fy hyder yn ôl i fynd ar y ffordd.”

Pam dewis beicio tros Gymru?

“Er fy mod i wedi fy magu yn Lloegr, mi benderfynais i  wnes benderfynu cynrychioli Cymru y flwyddyn yma,” meddai Dani Rowe wedyn.

“Yng Nghymru ydw i’n byw – ac mae’n gartref i mi rŵan – dw i’n cyfri’ fy hun yn Gymraes, ac mae Beicio Prydain wedi cefnogi fy mhenderfyniad.”

Mae Dani Rowe yn briod â Matt Rowe, brawd Luke Rowe o dim beicio Sky.