Dechreuodd Geraint Thomas chweched cymal ras feics y Critérium du Dauphiné yn gwisgo’r crys melyn heddiw.

Ond y Gwyddel Dan Martin enillodd y pumed cymal yn dilyn brwydr â’r Cymro ddoe (dydd Gwener, Mehefin 8), wrth iddyn nhw ddringo 2.7km i fyny safle sgïo Valmorel yn Ffrainc.

Roedd Geraint Thomas yn ail yn y cymal i’w godi i frig y tabl, ar y blaen i Gianni Moscon sydd hefyd yn cystadlu dros Team Sky.

Roedd Gianni Moscon chwe eiliad ar y blaen i Geraint Thomas ar ddechrau’r cymal ddoe.

Pedair eiliad yn unig oedd rhwng Geraint Thomas a Dan Martin yn y cymal yn y pen draw.

Mae gan y Cymro fantais o funud a naw eiliad gyda dau gymal yn weddill.