Fe fydd Geraint Thomas a Luke Rowe o Team Sky yn cystadlu yn y ras Critérium du Dauphiné yn Ffrainc yr wythnos hon.

Mae’r ras yn cael ei galw’n “ddrama agoriadol” y Tour De France mis nesaf.

Mae enillydd y Giro d’Italia, Chris Froome, yn absennol oherwydd ei fuddugoliaeth ddiweddar. Mae gan Team Sky record wych yn y ras, wedi iddyn nhw ennill pump o’r saith diwethaf. Chris Froome oedd yr enillydd yn 2015 a 2016.

Mae Luke Rowe yn dal i geisio dod yn ôl ar ôl anaf difrifol i’w goes, a phe bai’n dod drwy’r ras mae posibilrwydd y byddai’n ennill ei le yn rhan o’r tîm fydd yn mynd i’r Tour de France.

Oherwydd bod y Tour De France yn dechrau wythnos yn hwyrach nag arfer (oherwydd Cwpan y Byd Rwsia 2018) mae nifer o feicwyr gorau’r byd fel Richie Porte (BMC Racing) a Nairo Quintana (Movistar) yn cymryd rhan yn y Tour de Suisse sydd yn hwyrach na’r Dauphine ond mae cyn enillydd y Tour de France Vincenzo Nibali (Bahrain-Merida) yn cymryd rhan yn y Dauphine i gael teimlad y Tour yn y ras yn Ffrainc.

Bydd 153 o feicwyr o 22 o wledydd yn cymryd rhan. Mae Geraint Thomas yn un o’r ffefrynnau, ynghyd â Vincenzo Nibali, Romain Bardets, Michal Kwiatkowski, Adam Yates, Dan Martin, Marc Soler a Ilnur Zakarin.

Mae un prolog i’r ras, a saith cymal, cyn y bydd yn dod i ben ddydd Sul, Mehefin 10 gyda chymal o Moûtiers i Saint-Gervais Mont Blanc.