Mae beiciwr o Aberystwyth wedi ennill y ras gyntaf o dan-23 yn Ewrop y tymor hwn, trwy groesi’r llinell yn gyntaf yn y Ronde de l’Isard ym mynyddoedd y Pyreneau.

Roedd Stevie Williams, 21, wedi ennill y ddau gymal cyntaf, roedd wedi cael dechrau da i’r cymal olaf rhyw 23 eiliad ar y blaen i’r beiciwr nesaf, ac roedd popeth yn edrych yn dda… nes iddo gael dau byncjar.

Ond roedd ei dîm ar gael i’w helpu i groesi’r llinell derfyn yn ddiogel, gyda mantais o ugain eiliad tros Paret Peintre Aurélien o Ffrainc.

Roedd Stevie Williams wedi tynnu’n ôl o’r Gemau Gymanwlad eleni er mwyn canolbwyntio ar ei dymor gyda thîm SEG Racing Academy.