Roedd siom – a sioc – i Lee Selby yn Leeds neithiwr wrth i’r Sais Josh Warrington gipio ei wregys IBF oddi arno ar ddiwedd gornest baffio pwysau plu’r byd.

Dyma ornest gynta’r Sais am wregys y byd, a hynny o flaen torf o 25,000 o bobol yn ei ddinas ei hun.

Fe gipiodd e’r fuddugoliaeth ar bwyntiau yn dilyn canlyniad nad oedd yn unfrydol. Mae bellach wedi ennill 27 gornest.

Mae’n golygu bod cyfnod o dair blynedd fel pencampwr byd wedi dod i ben i’r Cymro, a hynny ar ôl pum ymgais i amddiffyn ei deitl.

Yr ornest

Roedd Lee Selby dan bwysau o’r dechrau’n deg, gan gael briw i’w lygad yn yr ail rownd wrth i bennau’r ddau daro yn erbyn ei gilydd.

Roedd hynny’n golygu nad oedd Lee Selby wedi gallu dominyddu rhannau o’r ornest, wrth i’r Sais fanteisio ar yr anaf.

Fe gafodd e friw arall i’r llygad dde yn y chweched rownd, ond fe lwyddodd e i daro corff ei wrthwynebydd yn gyson.

Serch hynny, arhosodd y Sais yn gryf yn y pen draw i gipio’r ornest.