Mae un o benaethiaid tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad wedi dweud bod y tîm “ar ben eu digon” ar ôl enill y nifer fwyaf o fedalau erioed.

Yn ôl y Chef de Mission, yr Athro Nicola Phillips, roedd gofyn i’r athletwyr “ganolbwyntio ar roi o’u gorau” gan fod yn hyderus y “byddai’r medalau yn dod yn sgil hynny”.

“Mae pawb wedi gweithio fel tîm ac mae’r athletwyr wedi dangos angerdd ac ymroddiad. Does dim amheuaeth y byddan nhw wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gymryd rhan mewn chwaraeon.”

Y medalau

Bydd Cymru’n dod adre’ â 36 o fedalau, gan guro’u hymdrechion yn Auckland yn 1990 a Glasgow yn 2014.

Yn eu plith, mae 10 o fedalau aur, 12 arian a 14 efydd.

Aur: Gareth Evans (codi pwysau, 69kg), Elinor Barker (seiclo ar y trac, ras bwyntiau 25km), Olivia Breen (athletau, naid hir T38), Marc Wyatt a Daniel Salmon (parau’r bowls), Hollie Arnold (athletau, taflu’r waywffon F46), Alys Thomas (nofio, 200m pili pala), David Phelps (saethu reiffl 50m), Michael Wixey (saethu, trap y dynion), Lauren Price (paffio, 75kg), Sammy Lee (paffio, 81kg).

Arian: James Ball (seiclo ar y trac, B&VI 1000m yn erbyn y cloc), James Ball (seiclo ar y trac, B&VI ras wib), Lewis Oliva (seiclo ar y trac, keirin), Laura Daniels (senglau’r bowls), Latalia Bevan (gymnasteg, ar y llawr), Ben Llewellin (saethu colomennod clai), Gareth Morris a Chris Watson (saethu, parau Gwobr y Frenhines), Daniel Jervis (nofio, 1500m dull rhydd), Laura Halford (gymnasteg rythmig, cylch), Kane Charig (reslo, dull rhydd 65kg), Jon Mould (seiclo, ras ffordd), Rosie Eccles (paffio, 69kg).

Efydd: Bethan Davies (ras gerdded 20km), Laura Hughes (codi pwysau, 75kg), Chloe Tutton (nofio, 200m dull broga), Tesni Evans (senglau’r sboncen), Georgia Davies (nofio, 50m dull cefn), Georgia Davies, Chloe Tutton, Alys Thomas a Kathryn Greenslade (nofio, ras gyfnewid 4x100m), Melissa Courtney (athletau, 1500m), Julie Thomas a Gilbert Miles (bowls, parau cymysg B2-B3), Curtis Dodge (reslo, 74kg dull rhydd), Olivia Breen (athletau, 100m T38), Mickey McDonagh (paffio, 60kg), Sarah Wixey (saethu, trap), Dani Rowe (seiclo, ras ffordd), Joshua Stacey (para-tenis bwrdd, senglau TT6-10)

‘Stori ehangach’

Yn ôl yr Athro Nicola Phillips, dydy’r tabl medalau ddim yn adrodd y stori gyflawn.

Meddai, “Mae yna stori ehangach y tu ôl i’r tabl medalau, gyda rhestr faith o oreuon personol a safleoedd uchel – perfformiadau gwell nag erioed.

“Llwyddodd llawer o’r athletwyr ieuengaf i gyrraedd y rowndiau terfynol yn eu Gemau cyntaf erioed, a llwyddodd eraill i ennill gyda sylw rhyngwladol sylweddol arnyn nhw.

“Mae’r cyrff llywodraethu cenedlaethol, gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, wedi paratoi’r athletwyr yn well nag erioed o’r blaen. Ac mae staff Tîm Cymru wedi gweithio’n galed i greu’r awyrgylch gorau bosibl i sicrhau llwyddiant ar yr Arfordir Aur.

“Mae’r perfformiadau anhygoel ar draws y chwaraeon yn dangos fod Cymru’n gallu cystadlu mewn mwy nag ambell i gamp.

“Er fod rhai o’r athletwyr yn hyfforddi ac yn cystadlu’n llawn amser, mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gwneud hynny ochr yn ochr â gweithio neu astudio. Yn ddi-eithriad, mae’r athletwyr wedi paratoi’n ddiflino ac wedi rhoi o’u gorau, a dyna’r cyfan oedd yn ofynnol ohonyn nhw.”

‘Amgylchedd cynhwysol’

Ychwanegodd Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips fod yr athletwyr “wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd cynhwysol”, a bod hynny “wedi cyfrannu at yr hyder a’r gefnogaeth y mae pawb, yn cynnwys y cenhedloedd eraill, wedi sylwi arno yn ystod y Gemau”.

“Ein nod oedd ysbrydoli eraill i berfformio ac i gyflawni eu gorau, a thrwy hynny gryfhau’r diddordeb mewn chwaraeon yng Nghymru yn arbennig ymhlith pobl ifanc. Does gen i ddim amheuaeth ein bod wedi cyflawni hynny – trwy berfformiadau’r athletwyr wrth gystadlu a’u hagwedd a’u hymddygiad y tu hwnt i’r gystadleuaeth.

“Mae ein llwyddiant yng Ngemau’r Arfordir Aur 2018 yn brawf o’r arweinyddiaeth gref y mae Nicki fel ein Chef de Mission wedi’i dangos, a’r gefnogaeth ardderchog a gafwyd gan staff Gemau’r Gymanwlad Cymru a swyddogion Tîm Cymru.

“Daw’r llwyddiant hefyd yn sgil ymroddiad aruthrol gan yr athletwyr eu hunain a chefnogaeth gadarn gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol, hyfforddwyr a staff Chwaraeon Cymru.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n noddwyr CGI a Phrifysgol De Cymru, ac i Lywodraeth Cymru, sydd wedi’n cefnogi ar hyd y daith.”