Gallai Cymru dorri’r record am y nifer fwyaf erioed o fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad gyda diwrnod yn weddill o’r cystadlu ar Arfordir Aur Awstralia.

Maen nhw eisoes yn sicr o ennill 36 o fedalau – sy’n efelychu eu record flaenorol, ac yn torri’r record am y nifer fwyaf o fedalau i Gymru dramor.

Roedd medalau efydd i’r seiclwraig Dani Rowe a’r chwaraewr para-tenis bwrdd Joshua Stacey.

Ac roedd medal arian i’r seiclwr Jon Mould ar y ffordd.

Daeth medal rhif 33 wrth i’r saethwr Michael Wixey gipio’r fedal aur, ac maen nhw’n sicr o gael tair medal arall yn y paffio.

Enillodd Cymru 36 o fedalau yn Glasgow yn 2014 – eisoes eleni, maen nhw wedi ennill wyth medal aur, 11 arian a 14 efydd.

Daeth y nifer fwyaf o fedalau aur – 10 – yn Auckland yn Seland Newydd yn 1990.