Mae rhagor o fedelau wedi dod i ran Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, sy’n cael eu cynnal eleni ar yr Arfordir Aur yn Awstralia.

Fe ddaeth y fedal aur  i Daniel Salon a Marc Wyatt yn y gystadleuaeth fowlio, wedi iddyn nhw guro’r Albanwyr Alex Marshal a Paul Foster, a enillodd y gystadleuaeth bedair blynedd yn ôl.

O ran medalau eraill, fe lwyddodd Ben Llewellin i gipio’r fedal arian yn y gawell saethu, tra bo Latalya Bevan wedi derbyn y fedal arian yn y gystadleuaeth llawr yn y gymnasteg artistig.

Yn y gystadleuaeth sboncen i ferched wedyn, fe gipiodd Tesni Evans y fedal efydd ar ôl iddi guro Nicol David o Malaysia – y tro cyntaf i Gymru ennill medal yn y gystadleuaeth ers 20 mlynedd.

Rhagor i ddod?

Hyd yn hyn, mae’r Cymry wedi llwyddo i ennill cyfanswm o 14 medal yn y Gemau, sef pedair medal aur, pump arian, a phedair efydd.

Mi fydd Tîm Cymru yn cystadlu mewn 12 o gystadlaethau eraill heddiw, gyda’r rheiny’n cynnwys cystadlaethau yn y pwll nofio, ar y trac athletau a’r cylch bocsio.

Fe gyhoeddodd y rhedwr 400m dros y clwydi, Dai Greene, ddoe (dydd Sul, Ebrill 9) na fydd yn cystadlu yn y Gemau, wedi iddo anafu llinyn y gâr yn ystod ymarferion yn Awstralia.