Mae’r Gymraes Chloe Tutton wedi ennill medal efydd yn ras 200m y dull broga yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.

Dyma fedal gynta’r Gemau i Gymru yn y pwll nofio.

Tatjana Schoenmaker o Dde Affrica enillodd y fedal aur – y fedal aur gyntaf erioed i Dde Affrica yn y gamp hon, ac roedd medal arian i’r Saesneg Molly Renshaw.

Dyma’r ail waith i Chloe Tutton gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ar ôl cymryd rhan yn y Gemau yn Glasgow bedair blynedd yn ôl.

Gyrfa

Daeth Chloe Tutton i amlygrwydd yn 13 oed, a chael ei hyfforddi wedyn gan Dave Haller, sef hyfforddwr David Davies, Duncan Goodhew a Mark Foster.

Mae hi bellach yn cael ei hyfforddi gan Graham Wardell a Dale Frantzeskou yng Nghaerdydd.

Enillodd hi lle yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Rio yn 2016. Daeth hi’n bedwerydd, gan golli allan ar fedal o drwch blewyn.

Enillodd hi fedal aur yn y dull broga dros bellter o 200 metr ym Mhencampwriaethau Prydain yr un flwyddyn, a medal aur yn yr un gystadleuaeth y llynedd.

Chafodd hi mo’i dewis ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd y llynedd, ond mae hi wedi brwydro’n ôl i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.