Mae’r chwaraewr dartiau byd enwog, Eric Bristow, wedi marw yn 60 oed.

Fe fu farw o ganlyniad i drawiad ar y galon, ac fe gafodd ei farwolaeth ei chyhoeddi gan y Gorfforaeth Ddartiau Proffesiynol mewn gêm o’r Uwch Gynghrair yn Lerpwl neithiwr (dydd Iau, Ebrill 5).

Roedd Eric Bristow wedi bod mewn digwyddiad gwahanol yn Lerpwl pan gafodd ei daro’n wael.

Gyrfa

Roedd y gŵr o Hackney yn Llundain,  a oedd yn cael ei adnabod fel “The Crafty Cockney”, yn un o’r enwau mwyaf ym myd dartiau yn y 1980au, a hynny ar ddechrau’r cyfnod pan ddaeth y gêm yn boblogaidd ar y teledu.

Fe ddaeth yn bencampwr y byd bump o weithiau rhwng 1980 a 1986, ac fe lwyddodd i ennill teitlau Meistri’r Byd pum gwaith hefyd.

Roedd yn un o sefydlwyr y Gorfforaeth Ddartiau Proffesiynol, ac yn athro i chwaraewr dartiau enwog arall, sef Phyl Taylor.

Yn ddiweddarach yn ei oes, roedd yn wyneb cyson ar Sky Sports fel arbenigwr ar ddartiau, ac yn 2012, fe ymddangosodd ar y rhaglen adloniant, I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here.