Roedd 80,000 o bobol yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd neithiwr i weld Anthony Joshua yn curo Joseph Parker o Seland Newydd ar bwyntiau mewn gornest focsio.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod y Sais wedi ychwanegu coron WBO at ei deitlau WBA ac IBF – y tro cyntaf i ornest uniad gael ei chynnal yng ngwledydd Prydain. Dyma’r tro cyntaf hefyd i Joseph Parker golli yn ystod ei yrfa broffesiynol, ac mae Anthony Joshua yn parhau’n ddi-guro.

Fe osododd Anthony Joshua ei stamp ar yr ornest yn y rowndiau agoriadol ond roedd achos i boeni yn y bedwaredd rownd wrth i bennau’r ddau daro yn erbyn ei gilydd, ond parhau i reoli’r ornest wnaeth y Sais.

Er i Joseph Parker geisio cyflymu’r ornest, cryfhau wnaeth Anthony Joshua yn bedwaredd rownd, er iddo’i chael yn anodd cynnal ei fomentwm yn y rownd nesaf.

Tro’r paffiwr o Seland Newydd oedd hi i geisio rheoli’r chweched rownd, ac roedd Anthony Joshua ar dir sigledig am gyfnod, a chael a chael oedd hi.

Ond ar y rhaffau yr oedd Joseph Parker erbyn yr wythfed rownd, ac Anthony Joshua’n dechrau rheoli unwaith eto erbyn y nawfed. Cynyddodd ei fomentwm am weddill yr ornest a Joseph Parker yn dechrau colli egni yn y rowndiau olaf.

Dyma’r tro cyntaf yn ei yrfa o 21 o ornestau i Anthony Joshua fethu â chau pen y mwdwl ar ornest cyn y diwedd.

‘Strategaeth’

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Anthony Joshua wrth SKY Sports: “Fy strategaeth oedd aros y tu ôl i’r prociad.

“Ro’n i’n barod amdani ac yn canolbwyntio. Mae Joseph Parker yn bencampwr byd ac fe ddywedais i mai enghraifft o finesse focsio oedd hyn.

“Yr hyn allwch chi beidio ag anghofio yw mai fi yw pencampwr uniad pwysau drwm y byd.”