Roedd siom i’r Cymro Mark Williams yn rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth y Chwaraewyr Snwcer yn Llandudno nos Sadwrn wrth iddo golli o 6-3 yn erbyn y Sais Shaun Murphy.

Sgoriodd y Sais 133 yn y ffrâm gyntaf ac roedd e dair ffrâm i ddim ar y blaen ar ôl sgorio rhediad o 117.

Tarodd y Cymro o Went yn ôl i’w gwneud hi’n 3-1 erbyn yr egwyl.

Ond ymestyn ei fantais wnaeth Murphy i 4-1 cyn i’r Cymro ennill y chweched ffrâm.

Ond roedd hi’n 5-2 o fewn dim o dro, er i Williams sgorio 127 i’w gwneud hi’n 5-3.

Un ffrâm yn unig oedd ei hangen wedyn i’r Sais sicrhau’r fuddugoliaeth.

Bydd Shaun Murphy yn herio Ronnie O’Sullivan mewn ffeinal am y trydydd tro y tymor hwn – un yr un yw hi ar hyn o bryd.