Mae trefnwyr her beicio Tour de Cymru wedi cyhoeddi bod y broses gofrestru bellach ar agor.

Taith pedwar diwrnod o’r hyd yw’r digwyddiad ddiwedd Mehefin, sydd dechrau yn Llangefni ac yn diweddu yng Nghasnewydd.

Y nosyw codi arian i bobol anabl ledled Cymru er mwyn eu helpu i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Llwyddodd y digwyddiad i godi £19,000 y llynedd, a gobaith yr elusen sy’n trefnu’r digwyddiad, Leonard Cheshire, yw codi £20,000 eleni.

Mae disgwyl i’r beicwyr godi o leiaf £750 o arian nawdd – £125 os yn cyfrannu am ddiwrnod yn unig – ac mi fydd y broses cofrestru yn dod i ben ym Mai.

Y daith

Mehefin 28: Llangefni – Wrecsam

Mehefin 29: Wrecsam – Llandrindod

Mehefin 30: Llandrindod – Abertawe

Gorffennaf 1: Abertawe – Casnewydd