Mae Ryan Day wedi cyrraedd rownd 16 olaf Pencampwriaeth Snwcer Agored Gibraltar.

Enillodd y chwaraewr 37 oed o Ben-y-bont ar Ogwr dair gêm ddydd Sadwrn – gan sgorio rhediad o gant ym mhob gêm wrth iddo guro Xu Si o 4-2, Oliver Brown o 4-1 a Martin O’Donnell o 4-1.

Fe fydd e’n cwrdd â Fang Xiongman o China yn rownd yr 16 olaf, a bydd gweddill y gystadleuaeth yn dod i ben heddiw.