Mae’r chwaraewr snwcer o Loegr, Barry Hawkins wedi datgelu ar drothwy rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Cymru fod marwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith fis Ebrill y llynedd wedi ei sbarduno wrth y bwrdd.

Fe fydd yn herio’r Albanwr John Higgins heddiw i geisio codi Tlws Ray Reardon yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.

Fe gyrhaeddodd y rownd derfynol ar ôl curo Noppon Saengkham o Wlad Thai o 6-4 yn y rownd gyn-derfynol – y tro cyntaf iddo fynd y tu hwnt i’r 16 olaf mewn cystadleuaeth ddethol y tymor hwn.

Marwolaeth

Dywedodd: “Fis Ebrill y llynedd, fe ges i barti pen-blwydd gyda’r teulu ar ôl Pencampwriaeth y Byd. Am y chwe mis cyn hynny, roedd gŵr fy chwaer wedi bod yn dioddef o iselder. Roedden ni i gyd yn credu ei fod e’n dychwelyd i’r hyn oedd e o’r blaen.

“Y noson honno, aeth fy nhad â fe adre’. Yn drist iawn, fe gymerodd ei fywyd ei hun. Roedd e’n teimlo fel pe na bai ffordd arall allan iddo fe. Wnaethon ni ddim gweld hynny’n dod o gwbl.”

Eglurodd e nad oedd e “wedi profi’r fath beth erioed o’r blaen”, a bod y cyfan wedi ei “ddinistrio am ryw chwe mis”.

Canolbwyntio ar snwcer

Dywedodd fod ei feddwl “yn rhywle arall” am fisoedd wrth iddo barhau i chwarae snwcer.

“Roedd hi’n anodd iawn i’r teulu ac yn enwedig i fy chwarae a’i hefeilliaid sy’n wyth oed erbyn hyn.

“Roedd hi’n dorcalonnus felly roedd rhaid i snwcer fynd i’r cefndir. Yn y misoedd diwethaf, dw i wedi ceisio gwella fy snwcer unwaith eto.

“Dw i’n teimlo’n well ynof fi fy hun ac ry’n ni’n symud ymlaen. Wnawn ni fyth anghofio’r hyn ddigwyddodd, ond o leia’ ry’n ni’n dod i delerau â’r cyfan nawr.”

Bydd enillydd y gystadleuaeth heno yn ennill £70,000 a lle ym Mhencampwriaeth y Chwaraewyr yn Llandudno’n ddiweddarach yn y mis.