Fe fydd y Cymro Cymraeg Aled Siôn Davies yn cystadlu yn erbyn athletwyr heb anableddau mewn pencampwriaethau yn Birmingham heno (6.35pm).

Fe fydd yn taflu pwysau yn y pencampwriaethau dan do yn ddiweddarach – y tro cyntaf i bara-athletwr gystadlu yn ei ddisgyblaeth.

Mae ei olygon wedi troi at Gemau’r Gymanwlad 2022 am nad yw ei gystadlaethau’n cael eu cynnig yn y Gemau ar Arfordir Aur Awstralia eleni.

A’i obaith ymhen pedair blynedd yw cystadlu yn erbyn athletwyr heb anableddau, gan symud o fyd para-athletau, lle mae e wedi ennill deuddeg o fedalau aur ym Mhencampwriaethau Ewrop, y Byd a’r Gemau Paralympaidd.

Fe fydd rhaid iddo daflu pellter o 18.50 metr er mwyn cyrraedd y safon angenrheidiol ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Ei record byd mewn para-athletau yng nghategori T42 yw 17.52 metr.