Daeth cadarnhad y bydd yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg o Bontarddulais, Brett Johns yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau ar Ebrill 21.

Fe fydd e’n herio’r Americanwr Aljamain Sterling ar ei domen ei hun yn Boardwalk Hall yn Atlantic City, New Jersey – ei ornest fwyaf hyd yn hyn.

Mae’r Cymro Cymraeg eisoes wedi creu argraff ar y byd UFC (Ultimate Fighting Championship) gyda buddugoliaethau dros Kwan Ho Kwak, Albert Morales a Jo Soto. Yn yr ornest yn erbyn yr olaf o’r rhain, fe gafodd ei ganmol am symudiad buddugol y ‘calf slicer’, gan drechu ei wrthwynebydd mewn 30 eiliad.

Mewn 15 o ornestau crefftau ymladd cymysg, mae Brett Johns yn ddiguro ym mhob un. Mae e hefyd yn ddiguro ym mhob un o’i ornestau UFC.

Mae ei wrthwynebydd, yn y cyfamser, wedi ennill 14 gornest MMA a cholli tair, ac ennill chwech a cholli tair yw ei record hyd yn hyn yn yr UFC.