Fe fydd Mark Williams yn herio Graeme Dott o’r Alban yn rownd derfynol Meistri Snwcer yr Almaen am 1 o’r gloch heddiw.

Fe gurodd y Cymro llaw chwith o Went Judd Trump o 6-1 yn y rownd gyn-derfynol.

Ac roedd yr Albanwr yn fuddugol o 6-4 yn erbyn y Sais Shaun Murphy yn y gêm gyn-derfynol arall.

Sgoriodd Mark Williams 109 yn yr ail ffrâm, ac fe enillodd e dair ffrâm o’r bron i sicrhau’r fuddugoliaeth.