Mae’r athletwyr sydd wedi cael eu dewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn paratoi at fis Ebrill – ac mae un ferch yn edrych ymlaen at ei hail gemau ar ôl cynrychioli Cymru yn yr Alban yn 2014, pan orffennodd yn y pedwerydd safle.

Cafodd Olivia Breen, 21, ei magu yn Liphook, Lloegr ond mae ei mam o ardal y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd. Mae’n diodde’ o barlys yr ymennydd, ac yn cystadlu yn y gemau para.

Eleni, mae wedi ennill ei lle i gystadlu yn y naid hir i ferched, a’r ras 100m. Ar un adeg, roedd hi’n ail yn rhestr detholion y byd yn y T38 100m, ac yn drydydd yn y T38 200m.

Hapus

“Mi wnes i ddechrau ymarfer yng nghlwb academi dinas Portsmouth pan yn dair ar ddeg,” meddai Olivia Breen wrth golwg360. ”O’n i wrth fy modd yn rhedeg, a diwrnod mabolgampau oedd fy hoff ddiwrnod pan yn yr ysgol.

“O’n i’n gweld ysgol yn galed wrth dyfu fyny, ond roedd y mabolgampau yn grêt. Roedd rhedeg wastad yn fy ngwneud i’n hapus.

“Tra yn Portsmouth, mi wnes ddechrau cymryd rhan yn y naid hir ac eto mi wnes fwynhau, ond mae wedi bod yn dipyn o her i gael yr ochr dechnegol yn iawn.

“Oherwydd bod gen i barlys yr ymennydd, mae cael fy nghorff i wneud be dw i angen iddo ei wneud, yn dipyn o her.”

Pencampwraig y byd 

Uchafbwynt gyrfa Olivia Breen hyd yma ydi dod yn becampwraig y byd T38 naid hir yn Llundain y llynedd – yn fwy na dim, efallai, oherwydd iddi gael hwyl wael arni yng Ngemau Olympaidd Rio de Jeneiro yn 2016.

“Es i fod yn ddeuddegfed yn Rio i fod yn gyntaf yn Llundain,” meddai, “ac mi oedd hynny’n brofiad emosiynol.

“Hefyd roedd ennill y fedal efydd yn y ras gyfnewid 4x100m yn Llundain yn 2012 yn rhyfeddol! Dim ond 16 oed o’n i.”

Mae Olivia yn ymarfer tua phump awr y dydd, bump diwrnod yr wythnos, ac mae’n gobeithio bydd wedi gweithio digon i wneud ei marc yn Awstralia eleni. Mae’r ferch a ddaeth yn ail iddi yn Llundain y llynedd, Erin Cleaver, yn cynrychioli Awstralia yng Ngemau’r Gymanwlad.

Cynrychioli Cymru

“Er na ches i fy magu yng Nghymru, dw i wastad wedi treulio llawer o fy amser yno, enwedig amser gwyliau’r ysgol,” meddai Olivia Breen, “a dw i wrth fy modd yn mynd  i weld fy nheulu yno.

“Dw i mor falch o gael gwisgo’r crys coch.”