Fe fydd Matthew Rees, sy’n aelod o glwb rhedeg y Swansea Harriers, yn rhoi cynnig arall ar Farathon Llundain eleni ar ôl dod i amlygrwydd yn ystod y ras y llynedd.

Ac fe fydd David Wyeth, y rhedwr o Chorlton a gafodd gymorth gan Rees i orffen y ras y llynedd, hefyd yn cystadlu eto.

Roedd Wyeth yn ei chael hi’n anodd gorffen y ras fis Ebrill y llynedd ac ar fin cwympo i’r llawr pan gafodd ei godi a’i helpu i orffen y ras wrth i Matthew Rees fynd heibio.

Ffrindiau

Mae’r ddau bellach yn ffrindiau agos.

Dywedodd Matthew Rees fod y ddau “wedi gwneud digwyddiadau eraill” gyda’i gilydd, a bod eu partneriaid bellach yn ffrindiau agos hefyd.

“Ry’n ni nawr yn ffrindiau da, sy’n beth braf iawn. Dydych chi ddim yn disgwyl dod yn ffrindiau wrth fynd i ras, ond dyna sy’n gallu digwydd.

“Mae bob amser yn beth emosiynol i redeg Marathon Llundain ond yn enwedig eleni ar ôl popeth ddigwyddodd y llynedd a’r flwyddyn ry’n ni wedi’i chael. Bydd hi’n emosiynol cael dychwelyd ar y dechrau, y diwedd a rhan fwya’r ffordd o gwmpas.”