Mae’r Gymraes Elinor Barker wedi ennill dwy fedal arian yng Nghwpan y Byd y Trac ym Minsk.
Daeth hi’n ail yn yr omniwm a’r ras safonol.
Gorffennodd hi’n seithfed yn y ras safonol gyntaf
Ond enillodd hi 11 o bwyntiau wrth wibio, gan ennill 20 o bwyntiau a mynd i frig y ras gyfan.
Gorffennodd hi’n drydydd yn y ras ddileu, gan ei gosod hi’n ail ar y cyfan cyn y ras olaf.
Roedd y Cymro Lewis Oliva’n drydydd yn ras keirin y dynion.
Yr her nesaf i’r ddau fydd Pencampwriaeth y Byd y Trac yn yr Iseldiroedd rhwng Chwefror 28 a Mawrth 4, a hynny cyn i Gemau’r Gymanwlad ddechrau yn Awstralia fis Ebrill.