Mae’r Cymro o Ddolgellau Elfyn Evans a’i Ford Fiesta wedi’i ddyrchafu, gan ei dîm M-Sport, i’r rheng flaen ar gyfer ras gynta’r tymor ym Monte Carlo’r wythnos nesaf.

Yn draddodiadol y cwrs Alpaidd heriol yw rali cynta’r tymor. Mae ei lonydd mynyddig enwog yn siŵr o fod ar eu hanoddaf yn eira, rhew a slwtsh diwedd Ionawr.

“Tydi’r rali yma byth yn hawdd,”  meddai Elfyn Evans, 29 mlwydd oed.

“Mae yna gymaint o wahanol ffactorau i gymryd rhan yn y ras. Mae’r cyrsiau eu hunain – os ydach chi’n anwybyddu’r eira a’r rhew – yn hollol ffantastig.’

Roedd Elfyn Evans yn bedwerydd yn y ras llynedd ac mae yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant anferthol y tymor diwethaf wrth fod y Cymro cyntaf i ennill unrhyw rali WRC yng Nghymru.

Os am ddilyn Elfyn Evans ar y teledu’r tymor hwn mae’r ralïo Channel 5, BT Sport, S4C a Red Bull TV.