Mae’r chwaraewr snwcer o Gymru, Mark Williams, allan o’r gystadleuaeth Meistri Snwcer Prydain, wedi iddo golli i Kyren Wilson o Loegr.

Fe gollodd y Cymro o Lyn Ebwy o 6 ffrâm i 1 yn un o gemau’r wyth olaf ym Mhalas Alexandria yn Llundain.

Daeth gobaith i Mark Williams – sef pencampwr y gystadleuaeth yn 1998 a 2003 – ddod yn bencampwr unwaith eto ar ddechrau’r wythnos ar ôl iddo guro Mark Selby o 6 ffrâm i 5.

Ond bellach, dim ond un Cymro sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, sef Ryan Day o Bontycymer.