Mae ras gyntaf y tymor seiclo yn dechrau heddiw (dydd Mawrth) yn Awstralia sef y Tour Down Under, ac fe fydd dau Gymro Gymraeg yn cymryd rhan.

Fe fydd Owain Doull yn rasio gyda Team Sky, a Scott Davies yn rhan o Team Dimension Data.

Mae’r ras dros 800km yn cynnwys chwe chymal, a gwaith Scott Davies fydd cefnogi a dysgu gan feicwyr fel Steve Cummings yn ei ras fawr gyntaf yn feiciwr profesiynol.

Mae hanes cyfoethog i’r Tour Down Under ac mae ganddi’r enw o fod y ras orau yn Awstralia. Fe gafodd ei sefydlu yn 1999, ac mae wedi mynd o nerth i nerth i gyrraedd statws un o rasus mawreddog yr ‘UCI World Tour’ fel y ‘Tour de France’, gan ddenu timau a beicwyr gorau’r byd.

Yn 2017, roedd 840,000 o wylwyr ar strydoedd de Awstralia i wylio’i arwr, Richie Porte o dîm BMC, yn ennill y ras.

Mae elit y byd seiclo wedi cymryd rhan yn y ras – enwogion fel Peter Sagan, Cadel Evans, Marcel Kittel, Andy Schleck ac Andre Greipel.