Raz De Maree yw enillydd Grand National Cymru yng Ngas-gwent eleni.

Cafodd y ceffyl ei farchogaeth i fuddugoliaeth gan James Bowen.

Cipiodd y ceffyl y fuddugoliaeth ddwy ffens i ffwrdd o’r llinell derfyn, ar ôl mynd heibio i Alfie Spinner.

Roedd y ras yn fyrrach nag arfer, a dim ond 18 naid oedd ynddi yn hytrach na’r 22 arferol.

Final Nudge oedd yn drydydd.

Gavin Cromwell yw’r ail hyfforddwr o Iwerddon i ennill y ras a gafodd ei symud o Ragfyr 27 oherwydd y tywydd.