Fe fydd y Cymro o Geredigion, Jamie Lewis yn herio Phil Taylor yn rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Ddartiau PDC y Byd heno (nos Sadwrn, 7.45).

Mae’r Sais, sydd wedi bod yn bencampwr y byd 16 o weithiau, yn ymddeol ar ddiwedd y gystadleuaeth yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Ond y Cymro 26 oed sydd wedi dwyn y sylw yn ystod y bencampwriaeth, ar ôl iddo guro un o’r prif ddetholion, Peter Wright o bedair set i un yn yr ail rownd, a hynny gyda sgôr o 107 ar gyfartaledd gyda’i dri dart.

Ac fe aeth ymlaen i guro Darren Webster o 5-0 yn rownd yr wyth olaf.

Pe bai’n llwyddo i guro Phil Taylor, fe allai wynebu naill ai Michael van Gerwen neu Rob Cross yn y rownd derfynol, ac fe fydd yn ennill £400,000 pe bai e’n codi’r tlws ar Ddydd Calan.