Roedd dryswch i’r Gymraes Ashley Brace wrth i’w gornest focsio pwysau bantam yn erbyn Melania Sorroche o Sbaen orffen yn gyfartal neithiwr.

Ar ddiwedd yr ornest ym Merthyr, oedd yn fyw ar S4C, daeth y cyhoeddiad bod un beirniad o blaid y Gymraes o 97-93, bod un arall o blaid y Sbaenwraig 0 96-94, a’r llall yn ei chael hi’n gyfartal 95-95.

Roedd hynny’n golygu gornest gyfartal, er i’r cyhoeddwr ddweud i ddechrau mai buddugoliaeth nad oedd yn unfrydol i Melania Sorroche oedd y penderfyniad swyddogol.

Cafodd y canlyniad cyfartal 95-95 ei gyhoeddi fel buddugoliaeth o 96-95 o blaid y Sbaenwraig, ac fe gymerodd ryw ugain munud i gywiro’r sgôr a chyhoeddi’r canlyniad go iawn.

Cyn yr ornest, roedd y Gymraes 26 oed, sy’n ymarfer gyda phencampwr y byd Lee Selby, yn ddi-guro mewn saith gornest broffesiynol.

Is-gerdyn

Ar yr is-gerdyn, roedd buddugoliaethau i’r Sais Lee Haskins dros Isaac Quaye o Ghana, Nathan Thorley o Gaerdydd dros Jermaine Asare o’r un ddinas, i Jacob Robinson o Gasnewydd dros Dmitrijs Gutmans o Latfia ac i Gavin Gwynne o Gasnewydd dros Henry Janes o Ferthyr.