Mae Ryan Day, y Cymro olaf oedd ar ôl ym Mhencampwriaeth Snwcer y DU, allan o’r gystadleuaeth bellach ar ôl cael ei guro o chwe ffrâm i dair gan y Sais Shaun Murphy.

Fe fyddai wedi herio Ronnie O’Sullivan yn y rownd derfynol yng Nghaerefrog ar ôl iddo yntau drechu Shaun Maguire yn y gêm gyn-derfynol arall o chwe ffrâm i bedair.

Roedd Day, sy’n hanu o Bontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr, ar ei hôl hi ar ôl y ffrâm gyntaf wrth i’r Sais sgorio 104.

Ond fe unionodd y Cymro y sgôr ar ddiwedd yr ail ffrâm cyn i’r Sais gipio’r tair ffrâm nesaf gyda rhediadau o 73, 89 a 135.

Tro Day oedd hi i sgorio’n drwm nesaf, gyda 61 yn y chweched ffrâm i’w gwneud hi’n 4-2 i Murphy.

Sgoriodd Murphy 70 yn y seithfed ffrâm cyn i Day daro’n ôl gyda 128 yn yr wythfed i’w gwneud hi’n 5-3, ond y Sais gafodd y gair olaf wrth gipio’r fuddugoliaeth gyda 59 yn y ffrâm olaf.

Meistri

Mae Ryan Day bellach ymhlith yr 16 o ddetholion uchaf, sy’n golygu ei fod e wedi sicrhau ei le yng nghystadleuaeth Meistri’r DU.

Bydd y gystadleuaeth honno’n cael ei chynnal yn yr Alexandra Palace yn Llundain rhwng Ionawr 14-21.

Bydd e’n herio Ding Junhui ar ddydd Llun, Ionawr 15 am 1 o’r gloch.

Bydd y Cymro arall yn y gystadleuaeth, Mark Williams yn herio Mark Selby ar ddydd Sul, Ionawr 14 am 1 o’r gloch.