Yn dilyn ei fuddugoliaeth neithiwr ym Mhencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig, Ryan Day yw’r unig un o ddwsin o Gymry i’w gwneud hi trwodd i rownd yr wyth olaf.

Fe gurodd y chwaraewr o Tsieina, Li Hang, o 6-5 ar ôl bod ar ei hôl hi o bedair ffrâm i ddwy.

Mae’r chwaraewr 37 oed o Bontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr yn safle 19 yn nhabl detholion y byd.