Mae’r gamp CrossFit yn anferth yn America, ac mae hogyn o Borthmadog wedi cael ei goroni yn rhif un yng Nghymru.

Roedd Tomos Harri Smith, 19, yn teithio i ymarfer â chlwb pêl-droed Wrecsam pan yn yr ysgol ond roedd yr holl deithio yn ormod a phenderfynodd ymuno á’r gampfa leol. Yno, ei frawd, Daniel, ddaru ei gyflwyno fo i CrossFit ac mae wedi taflu ei hun i mewn i’r gamp.

“Yn 2013 pan oeddwn yn  bymtheg, mi wnes i gystadlu am y tro cynta’, ac mi gyrhaeddais i y rowndiau terfynol a gorffen yn ail,” meddai Tomos Smith wrth golwg360.

Flwyddyn yn ddiweddarach, fe gystadlodd mewn pencampwriaethau ar gyfer ieuenctid – ac ennill. Ac, yn 2016, cafodd ei wahodd i ymarfer gyda’r ieuenctid mwyaf ffit yn y byd yn Majorca a Tenerife.

Yn Chwefror 2017, fe ddaeth ei gyfle i gystadlu yn CrossFit agored y byd – a dyna pryd y cafodd ei enwi yr hogyn mwya’ ffit yng Nghymru.

Beth ydi CrossFit?

Mae CrossFit yn gymysgedd o godi pwysau, ymarfer cardiofasgwlar a gymnasteg.

Mae’n cael ei hyrwyddo fel modd o wneud ymarfer corff ac fel camp gystadleuol.

Mae’r diddordeb yn y gamp yn rhyngwladol wedi bod yn gyfrifol am ddenu mwy o bobol at godi pwysau.

Gweithio’n galed

“Dw i’n ymarfer rhwng dwy a phedair awr bob dydd – dw i’n eitha’ disgybledig,” meddai Tomos Smith.

“Mae pencampwriaeth Ewrop yn Colchester fis Ionawr, a ga’ i weld lle ydw i’n sefyll o ran fy safon yn y digwyddiad hwnnw. Mae’r gamp yn tyfu yn ym Mhrydain, ond mae’n anferth yn America gyda gwobr o tua £300,000 i’r enillydd.

“Fy nod ydi datblygu a gwella bob blwyddyn, a chystadlu ym mhencampwriaeth y byd yn America yn 2022.”