Fe allai’r Cymro o Went, Mark Williams dynnu’n ôl o rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Gogledd Iwerddon oherwydd bod ei wraig yn sâl.

Mae disgwyl iddo fe herio Yan Bingtao yn Belffast am 1 o’r gloch heddiw, ond mae ei wraig, Joanne wedi’i chludo i’r ysbyty.

Dywedodd ar ei dudalen Twitter: “Nid dyna’r alwad ffôn ro’n i ei heisiau. Y wraig mewn ambiwlans yn mynd â hi’n ôl i’r ysbyty heno. Rhywbeth o’i le yma. Yn aros i glywed beth fydd yn digwydd nesaf. @jodenwill wir yn mynd drwyddi ar hyn o bryd. Y peth diwethaf dw i eisiau yw tynnu’n ôl nawr ond bydd rhaid i ni aros i weld.”

 

Dywedodd corff World Snooker sy’n trefnu’r gystadleuaeth fod disgwyl i’r gêm fynd yn ei blaen.