Mae’r Cymro Bruce Tasker wedi ennill medal efydd gyda thîm bobsledio Prydain yng Nghwpan y Byd yn Utah.

Mae e’n aelod o bedwarawd Prydain sydd hefyd yn cynnwys Brad Hall, Joel Fearon a Greg Cackett, ac fe wnaethon nhw orffen o.12 eiliad y tu ôl i’r Almaen, a gipiodd y fedal aur.

Dyma’r tro cyntaf i dîm Prydain gyrraedd y podiwm ers pedair blynedd, a’r ail waith yn unig ers 1997.

Daw’r llwyddiant yn dilyn blynyddoedd cythryblus i’r tîm sydd wedi wynebu cyhuddiadau o fwlio a thoriadau ariannol sylweddol, yn ogystal ag ymadawiad eu cyfarwyddwr perfformiad a’u prif hyfforddwr.