Mae dwy Gymraes yn nhîm Prydain wedi ennill medal aur yng Nghwpan y Byd y Trac ym Manceinion heddiw.

Roedd Elinor Barker yn gwylio wrth i Manon Lloyd helpu i sicrhau lle Prydain yn y rownd derfynol gyda buddugoliaeth dros Wlad Belg neithiwr.

Katie Archibald, Emily Kay, Emily Nelson a Neah Evans yw aelodau eraill y tîm.

Enillodd Elinor Barker a Katie Archibald fedal aur yn y Madison neithiwr, wrth i Manon Lloyd, Emily Kay, Neah Evans ac Emily Nelson frwydro yn rownd gyn-derfynol ras 4km, gan orffen mewn pedair munud 23.780 eiliad.

Herion nhw’r Eidal yn y rownd derfynol a chael buddugoliaeth gyfforddus o bron i bum eiliad, gan gofnodi’r amser cyflymaf i dîm Prydain ers i Katie Archibald, Elinor Barker, Laura Kenny a Joanna Rowsell-Shand dorri record y byd yng Ngemau Olympaidd Rio y llynedd.