Fe gollodd y Cymro Liam Williams ornest baffio WBO yn erbyn y Sais Liam Smith yn Newcastle neithiwr.

Doedd y Sais ddim wedi cyrraedd y pwysau angenrheidiol ar gyfer eu gornest gyntaf eleni.

Roedd hi’n ornest ddadleuol drwyddi draw, wrth i’r Cymro gael ei daro rhwng y rhaffau a’r Sais yn cael ei daro ar ôl y gloch yn y pumed rownd, ac fe gafodd y Cymro ei daro â phen y Sais gan achosi briw i’w lygad tua diwedd yr ornest.

Gornest gyfartal 114-114 oedd hi gan un o’r beirniaid, ond fe benderfynodd y ddau feirniad arall mai’r Sais aeth â hi, y naill o 116-112 a’r llall o 117-111.

Fe allai’r Sais fynd ymlaen i herio Miguel Cotto ar gyfer teitl y byd y flwyddyn nesaf, tra bod y Cymro’n brwydro’n ôl o ail golled ei yrfa.