Roedd dros ddwy fil o athletwyr yn Kona, Hawaii yn cymryd rhan yn Bencampwriaeth Ironman y Byd – ac yn eu plith yr oedd yn gŵr o Felinfach ger Llanbedr Pont Steffan.

Fe sicrhaodd Gareth Hodgson,30, ei le yn y bencampwriaeth trwy orffen yn y deg uchaf yn ei oedran yn Ironman Dinbych-y-pysgod ym mis Medi y llynedd.

“Fe ddechreues i ymarfer rhyw ddeng mlynedd yn ôl, seiclo a rhedeg gyda chlwb Sarn Helen yn Llanbed,” meddai wrth golwg360.

“Ro’n i’n mwynhau, ac mi wnes gymryd rhan yn Marathon Eryri yn 2014 ac roeddwn yn fodlon â fy amser o 3 awr 34 munud, felly roeddwn yn gwybod bod cennai obaith o gystadlu mewn digwyddiadau tebyg.

“Mi benderfynes anelu at gymryd rhan mewn Ironman mewn tair blynedd – roedd yn uchelgeisiol ond yn darged i mi. Y broblem yw bod anafiadau yn rhan o’r broses, ac maen nhw’n amharu ar yr ymarfer.”

Mae gan Gareth Hodgson deulu ifanc ac fel nifer yn gorfod cael y balans rhwng teulu ac ymarfer. I gystadlu mewn her mor galed ag Ironman y Byd, roedd angen ymarfer tua 20 awr yr wythnos.

“Roedd y gost o gystadlu yn y digwyddiad tua £700, ac fe aethon ni draw fel teulu, felly roedd hi’n dipyn o gost, ond yn drip bythgofiadwy,” meddai.

Cael ei daro’n wael

Ond roedd siom i ddod. Dridiau cyn y digwyddiad yn Hawaii, fe gafodd Gareth Hodgson ei daro’n wael… ond roedd yn benderfynol o ddechrau’r ras, heb wybod a allai ei chwblhau hi.

Ond fe lwyddodd.

“Roeddwn funudau i ffwrdd o fy nharged yn y nofio, tua hanner awr ar y beic a thri chwarter awr yn rhedeg, mi orffennais mewn 11 awr a 35 munud,” meddai.

“Roedd y rhedeg yn galed, ond mi wnes roi bob dim i mewn i orffen y ras.

“Roedd gen i darged i orffen  o fewn deg awr, felly wnes i ddim yn rhy ffol.

“Rhyw ddiwrnod, fe a’ i yn ôl, yn sicr mae gen i fusnes anorffenedig. Roedd yn brofiad anhygoel ac  roedd yr holl ddigwyddiad yn wych, yn llawn bwrlwm.”

Mae cyfweliad gyda Gareth Hodgson yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg hefyd.