Mark Williams
Mae’r Cymro Mark Williams yn arwain ar ddiwedd sesiwn gyntaf ei gêm rownd gogynderfynol ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd.

Mae Williams, sy’n rif 2 y byd ar hyn o bryd, yn herio’r Gwyddel Mark Allen ac yn arwain o bum ffrâm i dri ar ddiwedd eu sesiwn cyntaf y bore yma.

Mae Williams, a enillodd y bencampwriaeth yn 2000 a 2003, yn gobeithio dod yn bencampwr am y trydydd tro gan sicrhau ei le fel prif ddetholyn y byd yn y broses.

Dechrau da

Ar un pryd bore yma roedd yn edrych fel ei fod am sicrhau ei le yn y pedwar olaf yn weddol gyfforddus wrth iddo ruthro i oruchafiaeth o 5 – 1. Er hynny, daeth a Allen â’r sgôr yn ôl i 5 – 3 erbyn diwedd y sesiwn.

Enillodd Williams y ddwy ffrâm gyntaf cyn i Allen gipio un yn ôl. Yna, ffurfiodd y Cymro rediad o 125 yn y bedwaredd ffrâm cyn ennill y bumed a’r chweched hefyd.

Yn anffodus i Williams, fe sgoriodd y Gwyddel rediadau o 100 a 102 yn y ddwy ffrâm olaf i sicrhau ei fod o fewn cyrraedd i’r Cymro.

Fe fydd y sesiwn nesaf yn dechrau am 7:00 heno (nos Fawrth).