Mark Williams - ar y blaen
Fe fydd Mark Williams yn gobeithio gorffen y gwaith o guro’i gyd-Gymro Ryan Day heno ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd.

Ac yntau’n ail yn netholion y byd, fe orffennodd y sesiwn cynta’ 6-3 ar y blaen, ond fe gollodd gyfle i fod yn fwy cyfforddus fyth.

Pan oedd yn ennill o 5-1, fe fethodd ddu oddi ar y smotyn a rhoi’r cyfle i Day sgorio rhediad o 79.

Gyda rhediad o 63 yn y ffrâm nesa’, fe lwyddodd y chwaraewr 31 oed o Bontycymer i gau’r bwlch i ddwy ffrâm cyn i Williams sgorio 84.

Fe fydd rhaid iddo ennill pedwar ffrâm arall i ennill ac mae’r bwcis yn cynnig 1/12 ar iddo wneud hynny.

Fe fydd y cyn bencampwr o’r Cwm ger Glyn Ebwy wedi ei galonogi o weld y pencampwr presennol, yr Awstraliad, Neil Robertson, yn colli yn y rownd gynta’.

Gobaith i Pagett hefyd

Mae gan bartner ymarfer Williams, Andre Pagett, hefyd obaith o gyrraedd yr ail rownd, ac yntau’n gyfartal ar 4-4 gyda’r Sais Jamie Cope.

Roedd y chwaraewr 28 oed o’r Coed Duon wedi cyrraedd y rownd gynta’ ar ôl ennill pedair rownd ragbrofol ac mae’n debyg o gadarnhau ei le ar y gylchdaith broffesiynol.

Fe fydd dau Gymro arall yn chwarae heddiw – Matthew Stevens a Dominic Dale, sy’n wynebu un o’r chwaraewyr gorau erioed, Ronnie O’Sullivan.