Car F1 Team Lotus (llun o wefan y cwmni)
Mae’r gyrrwr ifanc o Gymru, Matthew Parry, ar y ffordd at wireddu ei freuddwyd o gystadlu ym Mhencampwriaeth Fformiwla Un.

Mae’r Cymro 17 oed wedi ymuno â rhaglen ddatblygu Team Lotus – yr unig yrrwr o Brydain fydd yn rhan o’r cynllun sydd wedi ei sefydlu gan y tîm Fformiwla Un.

Mae Matthew Parry wedi ennill sawl pencampwriaeth gwibgerti ond fe fydd yn dechrau rasio ceir y tymor nesaf.

Fe fydd yn gyrru i Fluid Motorsport Development Van Diemen ym Mhencampwriaeth Brydeinig Formula Ford eleni ac mae wedi bod yn ymarfer yn gyson ers diwedd y tymor diwethaf.

Bydd y cytundeb gyda Team Lotus yn rhoi’r cyfle i’r Cymro ifanc ennill profiad o fewn y tîm Fformiwla Un a Dau.

“Roedd ymuno gyda Team Lotus yn gyfle gwych,” meddai Matthew Parry.

“Rwy’n ffodus iawn bod Team Lotus ac AirAsia wedi penderfynu ei fod yn werth buddsoddi yndda i.

“Rwy’n edrych ymlaen at wneud defnydd llawn o’r profiadau a’r cyfleusterau sydd ar gael wrth i mi symud o wibgerti at rasio ceir.

“Rwy’n edrych ymlaen at y tymor newydd ac rwy’n ffyddiog y gallai fod yn un llwyddiannus.”