Mae’r Cardiff Devils wedi colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am yr ail flwyddyn yn olynol.

Fe gollodd y clwb Cymreig 5-4 yn erbyn y Nottingham Panthers yn dilyn camgymeriad gan y golwr Stevie Lyle.

Roedd y Cardiff Devils wedi dechrau’n dda gan fynd 2-0 ar y blaen wedi 12 munud yn dilyn goliau gan Jon Pelle a Craig Weller.

Fe darodd y Panthers ‘nôl â gôl gan David Beauregard, cyn i Ryan Finnerty ymestyn mantais y Cardiff Devils i 3-1.

Ond ‘nôl daeth y Nottingham Panthers gyda goliau gan Matt Myers a Jeff Heerema er mwyn unioni’r sgôr.

Fe aeth y Cardiff Devils ‘nôl ar y blaen gydag ymdrech Brad Voth yn curo golwr y Panthers Craig Kowalski cyn i Jimmy Ryan unioni’r sgôr unwaith eto.

Gydag 11 munud yn weddill fe aeth y Nottingham Panthers ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, ar ôl i Lyle adael ymdrech Beauregard lithro heibio ef ac mewn i’r gôl.