Gyda dim ond 100 diwrnod tan seremoni agoriadol Gemau Cymru, mae Urdd Gobaith Cymru yn dathlu’r achlysur trwy gyhoeddi enwau’r athletwyr cyntaf i gael eu gwahodd i gystadlu yn yr ŵyl.

Gŵyl aml chwaraeon newydd sbon i bobl ifanc yw Gemau Cymru a fydd yn dechrau ar 8 Gorffennaf yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.

Bydd athletwyr o naw maes gwahanol yn dod ynghyd i ddathlu ac i arddangos talentau ifanc chwaraeon Cymru. 

Y naw maes sy’n cael eu cynrychioli yng Ngemau Cymru yw-

  • athletau
  • boccia
  • canŵio
  • gymnasteg
  • nofio
  • pêl-droed
  • rygbi
  • triathlon  
  • phêl-rwyd 

Mae Gemau Cymru a Chymdeithas Pêl-rwyd Cymru wedi enwi rhai o’r timau sydd wedi eu gwahodd i gystadlu yn nhwrnamaint pêl-rwyd y Gemau, sef-

  • Coleg Gwent
  • Ysgol Gyfun Gŵyr
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
  • Ysgol Gyfun Treorci
  • Ysgol Lewis i Ferched
  • Ysgol Uwchradd St Cennydd
  • Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth  
  • Ysgol y Strade

Gwahoddir y timau hyn yn sgil eu llwyddiant yn unai Cystadleuaeth Cwpan y Llywydd Pêl-rwyd Cymru neu Gystadleuaeth Pêl-rwyd Genedlaethol yr Urdd. 

Cyfle i arddangos talent

“Mae’n wych bod Gemau Cymru yn gallu cyhoeddi enwau’r cystadleuwyr cyntaf,” meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru Efa Gruffudd Jones. 

“Edrychwn ymlaen am ŵyl aml chwaraeon llwyddiannus fydd yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc arddangos eu talent a bod yn rhan o fwrlwm Gemau Olympaidd 2012.”

Mae Gemau Cymru a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol y chwaraeon eraill yn disgwyl am ganlyniadau cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol cyn enwi’r cystadleuwyr eraill.

Defnyddio adnoddau Caerdydd

Bydd Gemau Cymru yn defnyddio’r adnoddau chwaraeon sydd ar gael yng Nghaerdydd gyda digwyddiadau i’w cynnal mewn amryw o leoliadau ar draws y brifddinas gan gynnwys Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Pwll Rhyngwladol Caerdydd, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Chanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. 

Trwy gydol y penwythnos cartrefir yr athletwyr mewn Pentref Athletwyr ym Mhrifysgol Morgannwg.

“Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r digwyddiad hwn a fydd yn rhoi cyfle i sêr chwaraeon y dyfodol brofi naws unigryw gŵyl aml chwaraeon,” meddai’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones. 

“Gobeithiaf bydd y digwyddiad yn annog ac yn ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff ac yn rhoi llwyfan iddynt arddangos eu talentau.”