Mae’r chwaraewr tenis o Dde Cymru, Josh Milton, wedi cyrraedd y pedwerydd safle yn rhengoedd tenis Prydain.

Dyma’r uchaf y mae Cymro wedi esgyn yn y rhengoedd ers 40 mlynedd.

Ar hyn o bryd, mae Milton, sydd o’r Rhws, ym mhedwerydd safle rhengoedd dynion asiantaeth tenis yr LTA.

Mae islaw’r Albanwr Andy Murray a’r Saeson, James Ward o Middlesex a Daniel Cox o Swydd Gaerhirfryn.

“Josh yw un o’r chwaraewyr gorau ym Mhrydain erbyn hyn, ac mae’n bosib y gallai gynrychioli Prydain yng Nghwpan Davis rywdro yn y dyfodol,” meddai prif weithredwr Tenis Cymru, Peter Drew.

Enillodd Milton, sy’n 21 oed, rownd derfynol y dyblau yng nghystadleuaeth Futures y Ffederasiwn Tenis Rhyngwladol yng Nghroatia, gyda’i bartner tenis o’r Iseldiroedd, Tim Van Terheijden, yn gynharach eleni.

Roedd hefyd yn un o ddau fu’n cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad y llynedd, ac fe enillodd cyfres AEGON Pro yn Roehampton yn ystod yr haf y llynedd.

Y Cymro diwethaf i esgyn mor uchel yn y rhengoedd oedd Gerald Battrick o Ben-y-bont ar Ogwr, a fu yn y trydydd safle am gyfnod hir, islaw Mark Cox a Roger Taylor.

Chwaraeodd Battrick mewn dwy ornest gyfartal yng Nghwpan Davis yn 1971-72.